Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière

Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière

by Rhianedd Jewell
Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière

Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière

by Rhianedd Jewell

eBook

$9.49  $10.39 Save 9% Current price is $9.49, Original price is $10.39. You Save 9%.

Available on Compatible NOOK devices, the free NOOK App and in My Digital Library.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

Dyma’r astudiaeth gyntaf o waith cyfieithu un o gewri’r ddrama, sef Saunders Lewis. Mae ei gyfieithiadau o weithiau’r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Molière yn datgelu agwedd newydd a dadlengar ar y llenor a adwaenir fel dramodydd, nofelydd a gwleidydd yn hytrach na fel cyfieithydd. Ystyrir yma hanes cyfieithu ac addasu yn y theatr Gymraeg a’r modd y maent wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddatblygiad y ddrama Gymraeg; edrychir hefyd ar bwysigrwydd Ewrop, a Ffrainc yn benodol, i Saunders ac arwyddocâd hyn fel sail i’w waith cyfieithu. Trafodir y modd y mae ei ddulliau cyfieithu yn adlewyrchu ei ddatblygiadau personol a phroffesiynol dros gyfnod o ddeugain mlynedd, a beth yw rôl y cyfieithydd ym myd y theatr – pa hawl sydd gan gyfieithydd i addasu darn llenyddol, er enghraifft, a ble mae gosod ffin rhwng cyfieithu, addasu a chreu testun newydd, ac i ba graddau felly y mae i’r cyfieithiad newydd werth celfyddydol gwreiddiol ynddi ei hun.

Product Details

ISBN-13: 9781786830968
Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru
Publication date: 07/15/2017
Series: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 288
File size: 2 MB
Language: Welsh

Read an Excerpt

CHAPTER 1

Cyflwyniad

Mabwysiadodd Saunders Lewis sawl rôl yn ystod ei fywyd: athro, gwleidydd, llenor, dramodydd, ac mae ei gyfraniad i'r meysydd amrywiol hyn o bwys sylweddol i ddiwylliant, i iaith ac i lenyddiaeth Cymru. Serch hynny, mae un agwedd ar ei fywyd creadigol sydd heb ei ystyried yn fanwl, ac sydd, i raddau, yn cyfuno holl elfennau eraill ei fywyd personol a phroffesiynol, sef ei waith cyfieithu.

Mewn adolygiad o gyfieithiad Saunders Lewis, Doctor er ei Waethaf, dywedodd Howell Davies:

Dywedodd cyfaill wrthyf unwaith, 'Gall unrhyw ffwl [sic] gyfieithu.' [sic] Y cwbl a ofynnir ganddo yw dywedyd yn ei iaith ei hun a ddywedodd arall mewn iaith wahanol – a dyna i chwi.' Ofni'r wyf fod fy nghyfaill yn synied yn rhy uchel am allu ffyliaid.

Gwaith heriol yw gwaith y cyfieithydd. Tasg ydyw sy'n mynnu medr, gofal ac amynedd, ac nid yw ffrwyth y llafurio hwn bob amser yn cael ei gydnabod. Datganodd Samuel Beckett, un o gyfieithwyr dramayddol enwocaf y byd, ym 1957: 'Sick and tired I am of translation and what a losing battle it is always.' Sôn yr oedd am heriau'r weithred ei hun, y dewisiadau y mae'n rhaid eu gwneud, y cydbwyso rhwng ystyr a ffurf, a rhwng yr awdur a'r gynulleidfa, ond y mae'r anobaith hwn hefyd yn berthnasol i statws y cyfieithydd yn y byd llenyddol, oherwydd prin yw'r clod a dderbyn am ei gyflawniad nac am ei rôl yn y testun newydd a gynhyrchir.

Mae cyfieithu ac addasu yn fframio cyfansoddiadau dramataidd Saunders Lewis ar ddechrau ac ar ddiwedd ei yrfa greadigol. Dau gyfieithiad dramataidd a luniodd Saunders, er iddo ysgrifennu sawl addasiad dramataidd yn ogystal. Cyfansoddodd y cyntaf, Doctor er ei Waethaf, ym 1924. Cyfieithiad o ddrama gan Molière yw hwn, sef Le médecin malgré lui, comedi glasurol o'r ail ganrif ar bymtheg. Cyfansoddodd yr ail, Wrth Aros Godot, ym 1962, ond fe'i cyhoeddwyd gyntaf ym 1970. Cyfieithiad o ddrama enwog Beckett yw hwn, En attendant Godot, neu Waiting for Godot, drama abswrdaidd o'r ugeinfed ganrif. Mae'r ddau gyfieithiad, sy'n dod ar ddau begwn gyrfa lenyddol Saunders, yn hynod wahanol. Maent yn cynrychioli datblygiadau mawr i Saunders o ran ei ddramâu gwreiddiol ei hunan, ei syniadau gwleidyddol a chrefyddol, yn ogystal â'i hyder fel llenor, tueddiadau sydd oll yn cael eu hadlewyrchu yn ei ddulliau cyfieithu. Mae'r testunau hefyd yn dynodi newidiadau ym myd cyfieithu yn ehangach; maent yn dangos fel yr oedd agweddau cyfieithwyr eu hunain wedi datblygu a newid yng nghwrs yr ugeinfed ganrif. Mae cyfieithiadau Saunders yn mapio esblygiad theorïau cyfieithu ynghylch rôl y cyfieithydd a pherthynas y gynulleidfa a'r testun. Gwelwn, felly, fod deall Saunders y cyfieithydd yn ein galluogi i ddeall Saunders y dramodydd, Saunders y gwleidydd a Saunders y dyn crefyddol yn ystod cyfnod cyffrous yn hanes cyfieithu.

Y mae diddordeb Saunders ym maes cyfieithu yn ymrwymedig â'i ddiddordeb yn natur iaith, fel y gwelir o'r dyfyniad isod, lle y cynigia Saunders ddiffiniad cymhleth o'r gair aura:

Apêl gymhleth gair i'r synnwyr ac i'r teimlad yw ei aura. Bron na wnâi'r gair Cymraeg 'rhin' y tro i'w gyfieithu. Geill gair fod yn soniarus i'r glust; geill fod yn bert i edrych arno ar bapur; dyna elfennau yn ei rin. Ond daw'r aurayn arbennig o gysylltiadau gair, o'r cof sy gennym am ei glywed o'r blaen mewn amgylchiadau pwysig. Felly bydd gair wrth ei godi o newydd yn dwyn i'w ganlyn sawyr ac olion hen brofiadau atgofus.

Esbonia Saunders yn gynnil yma brif her cyfieithu: sut mae cyfleu ystyr, cefndir, cysyniadau a holl ddiwylliant gair wrth ei drosi i iaith arall? Yn aml, fe gollir rhywbeth, ac mae'r cyfieithiad o reidrwydd yn anghyflawn, yn annigonol neu o leiaf yn wahanol. Ond er mai her yw'r dasg, yr oedd Saunders yn barod ac yn awyddus i'w hwynebu, oherwydd yr oedd cyfoeth geiriau, yn enwedig geiriau Cymraeg, o werth arbennig iddo ef, a'i amcan oedd trosi rhai o gampweithiau theatr Ffrainc i'r iaith honno. Diddordeb mewn iaith, wrth gwrs, sydd hefyd yn clymu'r ddau ddramodydd y dewisodd Saunders gyfieithu eu gwaith ynghyd, sef Beckett a Molière, cewri'r theatr Ffrangeg o gyfnodau gwahanol iawn yn ei hanes, a ddylanwadodd ar Saunders ac ar ei ddramâu gwreiddiol ei hunan.

Gellir gweld gwerthfawrogiad Saunders o werth, pwysigrwydd a gofynion cyfieithu yn ei waith beirniadol, oherwydd fe luniodd adolygiadau o sawl cyfieithiad Cymraeg o destunau Ewropeaidd yn y Western Mailac yn Baner ac Amserau Cymru, ac nid dim ond yr ieithoedd yr oedd yn eu siarad a oedd o dan sylw. Clodforodd drosiad T. Gwynn Jones o Faust Goethe i'r Gymraeg ym 1923, a rhoddodd gryn sylw i waith cyfieithu Thomas Hudson-Williams o destunau Rwseg mewn dwy erthygl yn Baner ac Amserau Cymru, y naill ym 1947 a'r llall ym 1951. Sonnir am bwysigrwydd cyfraniad Dr Hudson-Williams i'r diwylliant a'r iaith Gymraeg drwy drosi cynnifer o weithiau Pushkin:

Felly rhoes Dr. Hudson-Williams inni gyfle i ddarllen detholiad teg o weithiau prif fardd a gwir sylfaenydd llenyddiaeth Rwsia. Y mae'r gymwynas i lenyddiaeth Gymraeg yn fawr a chlodwiw. Fe sicrha le i'r cyfieithydd yn hanes ein llên. Y mae'r gymwynas yn werthfawr hefyd i feddwl a diwylliant Cymru. Diolch am draddodiad y cyfieithwyr. Hwy a roes inni nifer helaeth o glasuron ein rhyddiaith ni a hwy a fywiogodd ein hiaith, a'i chyfoethogi a'i hystwytho a'i gwneud yn offeryn hylaw yn y byd modern. Perthyn Dr. Hudson-Williams i rengau'r rheini.

Pwysleisia hefyd nad dawn ieithyddol y cyfieithydd hwn yw ei gryfder: 'Ni honnir ei fod yn un o feistri arddull y Gymraeg; nid yw'n ymdrechu am goethder a pherffeithrwydd clasurol ei gymrawd ym Mangor, y prifathro Emrys Evans, y mwyaf o'r cyfieithwyr er dydd Edward Samuel.' Serch hynny, y weithred o gyfieithu ei hun sydd o werth mawr i'r Cymry Cymraeg, oherwydd y mae'n torri tir newydd, yn mentro dros ffin lenyddol Rwsia: 'Yr hen wron o ysgolhaig ag ef, yn adnewyddu ei ieuenctid fel yr eryr, ac wedi ymddeol o'i waith coleg yn meddiannu cyfandir llenyddol newydd i lenyddiaeth Gymraeg.' Tanlinella Saunders o hyd ac o hyd hanfodolrwydd cyfieithiadau o weithiau Ewropeaidd i Gymru. Y maent yn agor drws i lenyddiaethau anghyfarwydd ac yn eu tro yn dylanwadu ar y gwaith creadigol gwreiddiol a gynhyrchir yng Nghymru. Dyma hefyd oedd cyfraniad Saunders ar ffurf ei gyfieithiadau ef o waith Molière a Beckett: gobeithiai rannu mawredd y clasurol a'r abs?rd, yr hen a'r newydd, y traddodiadol a'r arloesol â'r Cymry.

Honnodd ymhellach mai cyfieithu llenyddiaeth estron oedd yr unig ffordd o ddeall agweddau eraill ar y gwledydd a'u cynhyrchai:

Cofiwn mai gwlad Pwshcin yw Rwsia ac a fydd Rwsia. Trwy ddyfnhau'r sianeli llên a chelfyddyd rhwng Rwsia a gweddill y gorllewin y mae inni wrthweithio ysgariad y gwleidyddion ar y ddwy ochr. Dyna'r pam y mae gwaith Dr. Hudson-Williams yn gyfraniad clodwiw i'n hoes ni ac i oesoedd ar ein hôl ni yng Nghymru. Y mae Pwshcin drwyddo ef yn dyfod i mewn i brofiad Cymru.

Saif gwerth cyfieithu yn ei allu i ddylanwadu ar lenyddiaeth gynhenid gwlad. Drwy drosi testunau o'r Ffrangeg, o'r Almaeneg, o'r Rwseg, gellir mabwysiadu eu cryfderau ac o ganlyniad wella ansawdd yr hyn a gynhyrchir yng Nghymru. Yn hytrach na chreu ffenestr sy'n galluogi pobl i weld trysorau artistig gwlad arall, y mae cyfieithu yn creu pont rhwng diwylliannau, yn cynhyrchu llwybr fel y gall y cyfoeth hwnnw ddyfod yn rhan o'n llenyddiaeth ni yn ogystal:

Y mae llenyddiaeth pob cenedl yn gyfrinach fawr. Eithriad yw'r estron yr agorer y gyfrinach iddo. Cymwynas arbennig y cyfieithwyr da yw helpu pobloedd gwareiddiad i amgyffred cymhlethdod eu gwareiddiad, a gweld fod gan bob llenyddiaeth drysorau ysbrydol y bydd y ddynoliaeth yn colli eu dylanwad i fesur onid erys pobl y bydd iaith y llên honno yn dreftadaeth iddynt. Y mae pob llenyddiaeth yn gyfrinach y mae'r allwedd iddi dan garreg drws teulu a phentref a bro a gwlad. Dod i mewn i'r teulu yw medru codi'r allwedd ac agor y drws.

Fe welwn mai dyma oedd prif amcan Saunders wrth gyfieithu dramâu Beckett a Molière. Cyflwyno esiamplau o theatr lwyddiannus Ffrainc ydoedd i gynulleidfaoedd ac i ddramodwyr Cymru er mwyn ysbrydoli dramâu Cymraeg gwreiddiol newydd o fath tebyg. Ac yn wir, fel y gwelwn, ysbrydolodd y cyfieithiadau hyn gyfansoddiadau gan Saunders ei hun a efelychai ddychan Molière ac abswrdiaeth Beckett.

Disgrifia Saunders hefyd ymdrechion Hudson-Williams i gylchredeg ei gyfieithiadau hyd yn oed pan nad oedd cyhoeddwyr yn cefnogi ei ymdrechion. Yn sgil gwrthodiad cyhoeddwyr o'i fersiwn Gymraeg o Gerdd Rolant, anfonodd lythyr at y papurau newydd ym 1924 yn hysbysebu copïau o'i waith i'w benthyg. Yn ôl Saunders, 'y mae prynu llyfrau yn grefft sy'n diflannu yn ein gwlad', a rhaid oedd edmygu ymdrech debyg i ledaenu gwybodaeth am gyfieithiadau Cymraeg. Yn anffodus, er bod diddordeb mewn cyfieithiadau wedi cynyddu ers cyfnod Hudson-Williams, cymharol brin yw'r sylw beirniadol a dderbyn cyfieithiadau Cymraeg o hyd, fel yn achos Saunders. Nid ystyrir Doctor er ei Waethafac Wrth Aros Godot ynghyd â'i ddramâu eraill gan mai trosiadau o waith awduron eraill ydynt yn wreiddiol. Dadleuwn i, serch hynny, eu bod yn adlewyrchu tueddiadau yn natblygiad Saunders fel dramodydd, a bod y dulliau cyfieithu a ddefnyddiodd Saunders yn adlewyrchu fel yr aeddfedodd ei ysgrifennu yn gyffredinol.

Yn yr un modd, ychydig o glod a dderbyn y cyfieithydd am greadigrwydd ei waith. Erys yr awdurdod yn nwylo'r awdur tra bod gwaith y cyfieithydd yn anweledig i raddau helaeth. Annerbyniol oedd hyn i Saunders, a ystyriai rôl y cyfieithydd mewn cynhyrchu testun yn gyfwerth â rôl yr awdur. Mewn llythyr at ei gyfaill Robert Wynne esboniodd pam ei bod yn hanfodol bwysig bod cyfieithwyr yn derbyn yr un tâl, ac felly'r un gydnabyddiaeth, ag y mae'r awdur gwreiddiol:

Y mae rhannu royalties yn deg rhwng cyhoeddwyr, cyfieithydd ac awdur yn bwnc o bwys. Awgrymaf i 8% i'r cyhoeddwr (pan gewch un) a 41%, sef hanner a hanner i'r ddau arall. Heb hynny ni cheir cyfieithwyr da, dim ond hack, ac y mae cyfieithu da yn anhraethol bwysig i bob awdur drama. Felly fel mater o egwyddor – nid yw'r proffid yn ddigon i ddadlau amdano – rhaid i chwi gytuno, er mwyn rhoi esiampl dda yng Nghymru.

Gwaith creadigol yw cyfieithu, ac mae rhai yn dadlau y gellir ystyried cyfieithiad yn gelfyddydwaith annibynnol ar y gwaith gwreiddiol. Ymddengys y byddai Saunders yn cytuno â'r farn ddadleuol honno.

Parhaodd ei ddiddordeb mewn cyfieithu am ddegawdau wedi hyn, ac ym 1966 ysgrifennodd erthygl am Atgofion Dyddiau Ysgol, cyfieithiad E. T. Griffiths o Ricordi di Scuolagan Giovanni Mosca, ac am Y Deillion, cyfieithiad Caryl Glyn Davies a Gareth Alban Davies o novella André Gide, La Symphonie Pastorale. Cynhwysir yn yr un erthygl stori Gwilym M. Jones, Dawns yr Ysgubau, sef addasiad o stori Ruth o'r Beibl. Diddorol yw nodi, felly, fod Saunders wedi cynnwys yr addasiad hwn yn ei erthgyl am 'Gyfieithwyr'. Efallai nad oedd y gwahaniaeth technegol rhwng cyfieithu ac addasu o bwys mawr iddo, a dyma'r pam, fel y gwelwn, fod ei ddau 'gyfieithiad' yn cloffi rhwng y ddau faes. Nid yw'r ddau gyfieithiad yn hollol ffyddlon i'w testunau Ffrangeg, gan fod Saunders wedi addasu, dileu ac ychwanegu atynt. Gofynnwn, felly, i ba raddau y dylid diffinio'r cyfieithiadau Cymraeg yn gyfieithiadau, yn addasiadau neu yn ddramâu hollol newydd.

Er gwaethaf tuedd Saunders i bylu'r ffin hon, cyfieithiadau Saunders yw canolbwynt y gyfrol hon ac nid ei addasiadau. Fe welwn fod cyfieithu ac addasu wedi codi yng ngwaith Saunders mewn sawl ffordd, ond y gwaith a labelwyd yn gyfieithiadau sydd o brif ddiddordeb. Er y cyfeirir, felly, at ei addasiadau, Serch yw'r Doctor (1960) a'r Cyrnol Chabert (1968), ac at bresenoldeb dylanwadau Ffrangeg eraill ar ei gyfansoddiadau, dadansoddir yn bennaf ei gyfieithiadau, Doctor er ei Waethaf (1924) ac Wrth Aros Godot (1966). Mae'r testunau hyn yn arddangos mewn ffordd glir sut y datblygodd dulliau cyfieithu Saunders dros gyfnod o ddeugain mlynedd, sut yr oedd y dulliau hyn yn cyfateb i theorïau cyfieithu a esblygodd yn ystod yr ugeinfed ganrif, a sut y datblygodd Saunders yn bersonol ac yn broffesiynol rhwng y ddau destun. Serch hynny, mae ei holl addasiadau, sydd yn amrywio'n sylweddol o ran ffyddlondeb i'r testunau gwreiddiol, yn tystio i bwysigrwydd cyfieithu ac addasu i Saunders fel ffordd o arwain ac ysgogi llenyddiaeth newydd yn y Gymraeg.

Cyn troi at y cyfieithiadau, rhaid deall eu cefndir a'u cyd-destun. Mae'r bennod gyntaf, felly, yn edrych ar ddatblygiad cyfieithiadau dramataidd a theatraidd yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Gwelwn fod cyfieithu ac addasu wedi gwneud cyfraniad sylweddol i adfywiad ffurf y ddrama yn y lle cyntaf, a bod cyfieithiadau o'r Saesneg ac o ieithoedd Ewropeaidd wedi llwyddo i gynnal y mudiad drama wrth iddo wynebu heriau megis argyfyngau ariannol, diffyg deunydd, dramâu Cymraeg o safon isel, ac anfodlonrwydd cynulleidfaoedd. Ni roddwyd llwybr clir i'r gweithiau hyn, a gwrthwynebwyd poblogrwydd cyfieithu gan nifer, ond i Saunders ac eraill cynrychiolent gyfraniad pwysig i'r theatr Gymraeg.

Yn yr ail bennod ystyrir cysylltiad Saunders ag Ewrop a'i ddiddordeb arbennig yn Ffrainc ac mewn llenyddiaeth Ffrangeg. Yr oedd dylanwad Ffrainc yn weladwy ar wleidyddiaeth, ar lenyddiaeth ac ar fywyd hamdden Saunders. Cafodd ei ddaliadau gwleidyddol eu hysbrydoli yn sylweddol gan Maurice Barrès, gwleidydd ac awdur a gredai mewn datganoli p{er. Gwelwn mai Barrès a fu'n gyfrifol hefyd am arwain Saunders yn ôl at lenyddiaeth Gymraeg yn y lle cyntaf. Mae edmygedd amlwg Saunders o ddiwylliant Ffrainc yn esbonio'i barodrwydd i droi at y wlad honno am arweiniad i'r theatr Gymraeg ar ffurf cyfieithiadau ac addasiadau.

Lleolir dadansoddiad y cyfieithiadau yng nghyd-destun theorïau cyfieithu, ac y mae'r drydedd bennod yn amlinellu theorïau perthnasol i'r astudiaeth hon. Cynigir diffiniad o'r gwahaniaeth rhwng dwy brif theori gwrthgyferbyniol, estroneiddio a domestigeiddio. Y mae'r cyntaf yn blaenoriaethu bwriad yr awdur gwreiddiol ac yn parchu geiriau a ffurf y testun. Y mae'r ail yn blaenoriaethu anghenion y gynulleidfa darged ac yn sicrhau ei bod yn deall y gwaith drwy ei osod mewn cyd-destun cyfarwydd. Gwelwn fod dau gyfieithiad Saunders yn gwneud defnydd o'r ddwy theori hon gan eu gwneud yn gyfieithiadau gwahanol iawn. Mae'r bennod hefyd yn bwrw golwg ar y gwahaniaeth rhwng cyfieithu ac addasu gan fod testunau Saunders yn pylu'r ffin hon mewn sawl ffordd. Gofynnir i ba raddau y mae gan gyfieithydd hawl i addasu gwaith gwreiddiol, ac a ydyw newid yn anochel mewn unrhyw gyfieithiad. Ac am hynny, ystyrir a ellir diffinio cyfieithiad yn gelfyddydwaith annibynnol. Gwaith creadigol yw cyfieithu, ac felly a ddylid cydnabod y cyfieithydd fel rhywun sydd yn creu darn o waith newydd? Edrychir hefyd ar theorïau sy'n ymwneud yn bendol â maes y theatr. Gwahaniaethir rhwng cyfieithu dramataidd a theatraidd gan ystyried fel y mae cyfieithydd yn trosglwyddo testun o un iaith i iaith arall, ac yn ei drosglwyddo o gyfrwng y llyfr i gyfrwng y llwyfan. Mae gofynion darllenydd a gwyliwr yn wahanol iawn, ac felly mae gwaith y cyfieithydd yn amrywio wrth baratoi testun a ddarllenir a thestun a berfformir. Ystyrir sut y mae cyfieithydd yn mynd i'r afael â'r her unigryw hon, a ble y mae rôl y cyfieithydd yn gorffen a rôl y cyfarwyddwr yn dechrau. Ymhellach, gan mai drama radio oedd ffurf newydd Wrth Aros Godot, edrychir ar sut y mae trosi drama i gyfrwng newydd. Heb yr elfen weledol mae drama radio yn rhoi pwysau ar y geiriau i gyfleu yn gyflawn yr hyn sydd yn digwydd. Gwelwn fod y dasg hon yn anodd iawn yn achos dramâu Beckett gan eu bod yn enwog am eu bylchau a'u seibiau a chan nad yw'r hyn a wneir bob amser yn cyfateb i'r hyn a ddywedir. Yn olaf, rhaid cofio mai cyfieithu i iaith leiafrifol yr oedd Saunders, ac y mae'r ddeinameg honno ynddi ei hun yn newid y ffordd y mae'r cyfieithydd yn gweithredu. Ystyrir sut y mae'r berthynas rhwng yr iaith ffynhonnell a'r iaith darged yn effeithio ar gyfieithiadau i'r Gymraeg.

Trown wedyn at y cyfieithiadau eu hunain, gan ddechrau gyda'r cyfieithiad sy'n ymgorffori diddordeb Saunders yn y ddrama glasurol Ffrangeg, sef Doctor er ei Waethaf. Mae'r bedwaredd bennod yn olrhain y cysylltiad rhwng Saunders a Molière, gan edrych yn gyntaf ar yr hyn a ysgogodd Saunders i gyfieithu'r ddrama hon. Gwneir dadansoddiad o un o ddramâu mwyaf dychanol Saunders, Excelsior, gan arddangos y tebygrwydd rhyngddi a nifer o weithiau Molière. Prif gorff y bennod yw'r dadansoddiad o'r cyfieithiad, a thrwy gymharu'r testun â dau drosiad arall o'r un ddrama, Eli'r Galon (1982) a Doctor Di-glem (1995), gwelir sut y lluniodd Saunders gyfieithiad ffyddlon, parchus o Le Médecin malgré lui. Nid cyfieithiad perffaith mohono, serch hynny, fel y mae nifer o adolygiadau ei gyfnod yn awgrymu, a gwelwn mai dyn ar ddechrau ei yrfa heb lawer o brofiad ysgrifennu a oedd yn gyfrifol am y cyfieithiad hwn.

(Continues…)



Excerpted from "Her a Hawl Cyfieithu Dramâu"
by .
Copyright © 2017 Rhianedd Jewell.
Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Rhagymadrodd 1. Cyflwyniad 2. Datblygiad Cyfieithu Dramâu yng Nghymru 3. Saunders Lewis ac Ewrop 4. Cyfieithu Llyfr a Chyfieithu i'r Llwyfan 5. Cyfieithu'r Clasurol 6. Cyfieithu'r Abswrd Casgliad
From the B&N Reads Blog

Customer Reviews