Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad?: Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-66
Dyma gyfrol sy’n ymdrin â hanes Cymry America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg. Cynrychiolai’r cyfnod rhwng 1838 ac 1866 ei hoes aur, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi darlunio hynt a helynt yr ymfudwyr o Gymru trwy ddefnyddio cyfnodolion fel ffynonellau cynradd. Fel cyfrwng cyfathrebu allweddol yn yr oes honno, rhoddent lwyfan i’r Cymry drafod pynciau’r dydd yn eu mamiaith. Prin bod unrhyw un yng Nghymru heb ryw gysylltiad teuluol ag America, neu’n adnabod rhywun sydd wedi ymfudo, ac yn yr un modd mae gan ddisgynyddion y Cymry yn America ddiddordeb yn eu hetifeddiaeth – mae bwrlwm y cymdeithasau Cymreig yn ffynnu o hyd ar draws y cyfandir, a dathliadau Gŵyl Ddewi a chymanfaoedd mor fyw ag erioed. Eto i gyd, ychydig iawn a wyddant fod gwasg Gymraeg fywiog ar un adeg yn gwasanaethu’r Cymry yn eu gwlad fabwysiedig.
"1126913458"
Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad?: Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-66
Dyma gyfrol sy’n ymdrin â hanes Cymry America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg. Cynrychiolai’r cyfnod rhwng 1838 ac 1866 ei hoes aur, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi darlunio hynt a helynt yr ymfudwyr o Gymru trwy ddefnyddio cyfnodolion fel ffynonellau cynradd. Fel cyfrwng cyfathrebu allweddol yn yr oes honno, rhoddent lwyfan i’r Cymry drafod pynciau’r dydd yn eu mamiaith. Prin bod unrhyw un yng Nghymru heb ryw gysylltiad teuluol ag America, neu’n adnabod rhywun sydd wedi ymfudo, ac yn yr un modd mae gan ddisgynyddion y Cymry yn America ddiddordeb yn eu hetifeddiaeth – mae bwrlwm y cymdeithasau Cymreig yn ffynnu o hyd ar draws y cyfandir, a dathliadau Gŵyl Ddewi a chymanfaoedd mor fyw ag erioed. Eto i gyd, ychydig iawn a wyddant fod gwasg Gymraeg fywiog ar un adeg yn gwasanaethu’r Cymry yn eu gwlad fabwysiedig.
11.49 In Stock
Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad?: Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-66

Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad?: Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-66

by Rhiannon Heledd Williams
Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad?: Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-66

Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad?: Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-66

by Rhiannon Heledd Williams

eBook

$11.49  $12.99 Save 12% Current price is $11.49, Original price is $12.99. You Save 12%.

Available on Compatible NOOK devices, the free NOOK App and in My Digital Library.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

Dyma gyfrol sy’n ymdrin â hanes Cymry America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg. Cynrychiolai’r cyfnod rhwng 1838 ac 1866 ei hoes aur, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi darlunio hynt a helynt yr ymfudwyr o Gymru trwy ddefnyddio cyfnodolion fel ffynonellau cynradd. Fel cyfrwng cyfathrebu allweddol yn yr oes honno, rhoddent lwyfan i’r Cymry drafod pynciau’r dydd yn eu mamiaith. Prin bod unrhyw un yng Nghymru heb ryw gysylltiad teuluol ag America, neu’n adnabod rhywun sydd wedi ymfudo, ac yn yr un modd mae gan ddisgynyddion y Cymry yn America ddiddordeb yn eu hetifeddiaeth – mae bwrlwm y cymdeithasau Cymreig yn ffynnu o hyd ar draws y cyfandir, a dathliadau Gŵyl Ddewi a chymanfaoedd mor fyw ag erioed. Eto i gyd, ychydig iawn a wyddant fod gwasg Gymraeg fywiog ar un adeg yn gwasanaethu’r Cymry yn eu gwlad fabwysiedig.

Product Details

ISBN-13: 9781786830609
Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru
Publication date: 03/15/2017
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 336
File size: 2 MB
Language: Welsh

About the Author

Mae Rhiannon Heledd Williams yn Arbenigwr Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin. Hi yw awdur y gyfrol Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad? a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2017.

Read an Excerpt

Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad?

Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-1866


By Rhiannon Heledd Williams

Gwasg Prifysgol Cymru

Copyright © 2017 Rhiannon Heledd Williams
All rights reserved.
ISBN: 978-1-78683-060-9



CHAPTER 1

Newyddiaduraeth Gymraeg America

'Gyfaill mwyngu': y diwylliant print a hunaniaeth Gymreig

Cenedl Gomer gymwys hawddgar, Boed i'ch gysur heb ddim galar, Wele'n dyfod i'ch diddanu Mewn estronwlad, Gyfaill mwyngu.

Ymddangosodd rhifyn cyntaf Y Cyfaill o'r Hen Wlad gan wasg argraffu William Osborn yn ninas Efrog Newydd ym mis Ionawr 1838. Sefydlwyd y misolyn gan William Rowlands, gweinidog blaenllaw gyda'r Methodistaidd Calfinaidd. Cynrychiola'r Cyfaill ymgais lwyddiannus gyntaf Cymry America i sefydlu cyfnodolyn ar gyfer y genedl yn gyfan gwbl yn y famiaith, gweithred a esgorodd ar gyfnod toreithiog i'r wasg Gymraeg ar y cyfandir. Roedd yn arloeswr a fyddai'n 'diddanu' Cymry America drwy gydol y ganrif – ac yn rhyfeddol – ymhell i'r ugeinfed ganrif hyd at 1933. Mae'r pennill uchod yn nodweddiadol o'r croeso a gawsai'r 'Cyfaill mwyngu' gan ei ddarllenwyr wrth iddo newid y tirlun print yn gyfan gwbl.

A thros ddau gant o dreflannau Cymreig ar wasgar ar hyd cyfandir eang America, roedd y wasg yn allweddol i ffurfio cymuned Gymraeg genedlaethol oherwydd ei gallu i greu dolen gyswllt rhyngddynt. Wrth iddi fodloni eu hanghenion cymdeithasol a diwylliannol, pylu yr oedd arwyddocâd tiriogaeth neilltuol i hunaniaeth Cymry America. Roedd yn fodd o glymu cymdeithas o ddarllenwyr ynghyd a oedd yn ymwybodol eu bod yn hanu o'r un genedl – yn bennaf ar sail yr iaith – yng nghanol môr amlddiwylliannol yr Unol Daleithiau.

Cyn dyfodiad yr oes ddigidol, yr unig ddull i gyrraedd cynulleidfa eang yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd drwy'r cyfrwng print. Disgrifia Andrew King a John Plunkett Brydain Oes Victoria fel 'a society's Being-in-Print', sy'n ffordd gelfydd o gyfleu bod y diwylliant hwn yn rhan annatod o'r gymdeithas. Fel un o brif gonglfeini byd cyhoeddi'r oes, roedd cyfnodolion yn symbolau allweddol i gynnal yr undod cymdeithasol hwn, ac yn cyflawni swyddogaeth fel ffynhonnell wybodaeth amhrisiadwy a fforwm drafod. Yn wir, roedd yr ymwybyddiaeth o ddylanwad y wasg brint yn cydredeg â hinsawdd newyddiadurol America, a roddai bwyslais enfawr ar rym pellgyrhaeddol y cyfnodolion fel prif gyfrwng cyfathrebu'r oes. Roedd chwyldro print y Cymry yn cyd-fynd â'r twf yn y maes yn America o 1830 ymlaen pan roddwyd bri ar lythrennedd, a phan gredid fod gan y wasg gyfnodol oblygiadau cymdeithasol cryfach na'r llyfr. Roedd hefyd yn fodd i ledaenu gweithgarwch deallusol ymysg trwch y boblogaeth, ac felly dylid astudio rhythmau ac effaith y wasg fel cynnyrch cymdeithas a diwylliant y cyfnod.

Beth felly oedd yr amgylchiadau a'i gwnaeth yn bosibl i sefydlu gwasg Gymraeg yn America? Byddai'n rhaid wrth gymuned ddigonol o ddarllenwyr yn y man cyntaf.

Bu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn drobwynt hanesyddol i Gymru ar ystyr wleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol, a thrawsnewidiwyd ei holl ddemograffeg. O ganlyniad i'r twf sylweddol mewn diwydiant, roedd y boblogaeth gynyddol yn dreth ar adnoddau, a greai adfyd i weithwyr yr ardaloedd diwydiannol a chefn gwlad fel ei gilydd. Fel ag yn Iwerddon, tyfai anniddigrwydd dwys ymhlith deiliaid tir a ffermwyr wrth iddynt wrthryfela'n erbyn y tirfeddianwyr, gan achosi rhwyg ideolegol a diwylliannol rhwng gwahanol haenau cymdeithas. Pwysai trethi, rhenti uchel a'r degwm yn drwm ar y cymunedau amaethyddol, a golygai diweithdra a phrinder tir fod rhai yn daer am ddihangfa rhag y caledi. Yn nannedd hyn oll, nid yw'n syndod i nifer sylweddol o Gymry anfodlon ddyheu am osgoi gormes Prydain a cheisio lloches yn America a gwledydd eraill ledled y byd, fel y tystia cerdd o'r cyfnod yn y Cyfaill:

Ffarwel Brydain, a'i chwyn a'i chynen, A'i hingol angen, aflawen floedd; Ffarwel Gymru a'i thraws arglwyddi, A'i gwladaidd dlodi sy'n gwaeddi ar g'oedd.


Nid oedd y dwymyn ymfudo'n gwbl ddieithr i'r Cymry, gan i nifer o Grynwyr a Bedyddwyr Cymreig ymgartrefu yn nhrefedigaethau Pennsylfania a Delaware ar drothwy'r ail ganrif ar bymtheg i osgoi erledigaeth grefyddol a gwleidyddol. Yn ddiweddarach yn ystod y ddeunawfed ganrif, symudiadau o natur Anghydffurfiol a chenhadol a welwyd o Gymru. Canfuwyd hefyd nifer o anturiaethwyr Cymreig yn tramwyo tir America yn drwm dan ddylanwad addewid y chwedl Fadogaidd.

Fodd bynnag, erbyn yr 1820au roedd sôn am ymfudo o fath gwahanol yn britho papurau newydd a chylchgronau Cymru, a'r ddelfryd o fywyd gwell yn cydio'n gyflym. Yn wahanol i natur afieithus a chenedlgarol yr ymfudo yn ystod y ddeunawfed ganrif, ystyriaethau ymarferol a ddenai nifer i groesi'r Iwerydd erbyn yr 1800au. Yn sgil tlodi a chaledi amodau byw'r ganrif hynod gyfnewidiol hon, rheidrwydd economaidd a'r awydd am fywoliaeth mwy cysurus oedd y prif ffactor a yrrai'r Cymry i godi eu pac. Yn hyn o beth, ymdebygai'r Cymry i'r mwyafrif o ymfudwyr o Ewrop a deimlai gymysgedd o dynfa a gorfodaeth, ffenomen a elwir yn push-pull. Cawsai'r sawl a ddioddefodd orthrwm ym Mhrydain eu denu at y cyfleoedd a gynigiai America, fel y dengys y gerdd hon:

Os oedd hyfryd cael Caerefrog, Wlad oludog enwog iawn, Yn lle Brydain, (gan orthrymder) Treiddia llymder trwyddi'n llawn.


Ymysg breintiau'r wlad newydd, ceid tiroedd ffrwythlon am brisiau rhesymol a chynnydd yn y galw am lafur yn y diwydiannau mawrion. Golygai hyn gyflogau uwch yn y gweithfeydd copr, arian, dur, glo a llechi. Yn fwy na hynny, ymddangosai fod America hefyd yn cynnig rhyddid a thegwch gwleidyddol a chrefyddol, cymhelliad arall i'r Cymry democrataidd adael eu cynefin. Tystia'r gweinidog blaenllaw Iorthryn Gwynedd i'r rhinweddau tybiedig hyn ar ei ymweliad â'r Unol Daleithiau yn 1852. Mae ei eiriau yn adlewyrchu'r cysyniadau a oedd yn treiddio drwy Gymru benbaladr yn y llenyddiaeth am ymfudo, ac yn dylanwadu ar farn y Cymry am wlad fabwysiedig eu cydwladwyr:

Darllenais, a chlywais lawer yn yr Hen Wlad am yr Unol Daleithiau; ac yr oeddwn er ys blynyddau yn mawr gymeradwyo eich ffurflywodraeth, eich cyfreithiau, eich rhyddid, a'ch rhagorfreintiau gwladol a chrefyddol; ond ni fynegwyd i mi yr hanner, wedi gweled a'm llygaid, a chlywed a'm clustiau, yr wyf yn awr yn gwbl argyhoeddedig o ragoriaethau y wlad eang hon.


Tasg amhosibl yw nodi faint yn union o Gymry a ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oherwydd diffyg dogfennau a chofnodion swyddogol dibynadwy. Erbyn 1850, a'r don gyntaf o ymfudo wedi cyrraedd ei glannau, amcangyfrifir yn ôl y cyfrifiad Americanaidd bod 29,868 o Gymry'n byw yno. Erbyn 1860, cynyddodd y rhif hwn i 45,763.

Er eu bod wedi bwrw gwreiddiau ar hyd y cyfandir, roedd 89 y cant o'r rheiny wedi ymgartrefu yn nhaleithiau Efrog Newydd, Pennsylfania, Ohio a Wisconsin yn unig. Yn 1812, dim ond pum treflan Gymreig oedd yn yr Unol Daleithiau. Gwelwyd rhai treflannau Cymreig ar drothwy'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond sefydlwyd sawl un newydd yn ystod y degawdau canlynol – yn enwedig yn siroedd Oneida a Lewis yn rhan uchaf talaith Efrog Newydd. Yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sir Oneida a gynhwysai'r nifer uchaf o Gymry ar yr holl gyfandir, ym mhentrefi Remsen a Steuben yn neilltuol. Erbyn yr 1830au, daeth y ddinas agosaf, Utica, yn ganolbwynt masnachol a diwylliannol pwysig i'r Cymry. Cynrychiolai'r 1840au gyfnod gwaeth fyth o galedi yng Nghymru, a gyflymodd raddfa'r ymfudo yn aruthrol nes bod Cymry ar wasgar mewn gwahanol daleithiau yng Nghanada ac America.

Glaniodd y Cymry ar gyfandir a oedd yn wynebu cyfnod cythryblus a thrawsnewidiol tu hwnt yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wir, gwelwyd newid cyflymach ac amlycach ar yr adeg hon nag yn ystod y ddwy ganrif flaenorol. Dyblodd y boblogaeth fesul chwarter canrif, ymhelaethwyd ei ffiniau hyd at y Môr Tawel, dyblwyd maint y tiroedd a feddiannwyd, a chynyddodd nifer y taleithiau o 18 i 33. Yn fwy na hynny, diflannodd cymdeithas amaethyddol a chyntefig cyfnod Jefferson, a daeth economi fasnachol a dyfodd yn gyflym yn ei lle. Gwelwyd gwelliannau dibendraw ym maes trafnidiaeth a chyfathrebu, tyfodd y dinasoedd a masnach dramor, a chyrhaeddodd y raddfa ymfudo lefelau na ragflaenwyd.

Gweddnewidwyd hinsawdd wleidyddol America yn dilyn ethol Andrew Jackson yn arlywydd yn 1828. Yn sgil ei ddaliadau democrataidd a'r ymhelaethiad i'r gorllewin, rhoddwyd mwy o rym i'r dyn cyffredin yn hytrach na cheidwadwyr cyfoethog. Trawsnewidwyd America o fod yn wlad amaethyddol i un fasnachol a diwydiannol, a ffurfiodd batrwm cymdeithasol a diwylliannol newydd ar y cyfandir. Sefydlwyd busnesau newydd yn ystod yr 1820au a'r 1830au, a thyfodd ffatrïoedd a diwydiannau fel cotwm a haearn. Coleddwyd syniadau chwyldroadol megis unigolyddiaeth ac optimistiaeth a oedd yn magu'r dyhead i ehangu. Cydiodd y cysyniad o gynnydd, ac o ganlyniad lledaenwyd y gred dros wella'r meddwl yn ogystal â chymdeithas yn gyffredinol. Golygai hyn ddatblygiadau ym myd diwydiant, gwyddoniaeth, cenedlaetholdeb, mudiadau diwygiadol a chydraddoldeb. Yn ei sgil, diflannodd y cysyniad o haenau cymdeithasol, ehangodd y cyffindir, a daethpwyd i arddel democratiaeth fel delfryd.

Wedi 1830, trawsnewidwyd America mewn amrywiol ffyrdd yn sgil ysbryd a grym gwleidyddol newydd. Achoswyd hyn yn rhannol gan symudiad i gymoedd Ohio, Kentucky a Tennessee. Erbyn 1828, trigai bron i draean o Americanwyr i'r gorllewin o'r Alleghenies, cynnydd o bron 30 y cant mewn 20 mlynedd. Dylanwadodd yr wyth talaith orllewinol o natur amaethyddol yn fawr ar y meddylfryd cenedlaethol. Deilliodd ymdeimlad o annibyniaeth yn sgil rheidrwydd i reoli a gwneud penderfyniadau, a'r cyfansoddiadau gwleidyddol yn fwy rhyddfrydol o'r herwydd. Rhwng 1790 ac 1840, croesodd 4.5 miliwn y mynyddoedd Appalachian, a chyfrannodd gwelliannau mewn trafnidiaeth a chyfathrebu at greu ardal orllewinol rymus a hunanymwybodol.

Yn ystod yr 1840au, gwelwyd mudiad trawsgyfandirol tua'r gorllewin. Achosodd dirwasgiad 1837 i nifer ymgartrefu yn Oregon a Chaliffornia, er mai rhan o Fecsico ydoedd Califfornia. Gwaddol arlywyddiaeth Jackson a'r newidiadau a ddaeth yn ei sgil oedd dyhead i ehangu tiroedd. Bathwyd y term Manifest Destiny yn 1845 i ddisgrifio'r gred dros hawl ddwyfol i feddiannu Gogledd America. Byddai creu cyfleoedd newydd yn allweddol i greu ymdeimlad o ryddid. Am genedlaethau, credai trigolion y cyfandir fod America wedi ei dewis gan Dduw fel arbrawf yn hanes y ddynoliaeth, a byddai sicrhau rhyddid a'r symudiad i'r gorllewin yn rhan o'r dynged honno. Yn 1845, meddiannodd yr Unol Daleithiau Texas, ac yn 1846–8 aethpwyd i ryfel gyda Mecsico. Canlyniad hyn oedd ildio Califfornia, Mecsico Newydd, Arizona, Nevada ac Utah i ddwylo'r Unol Daleithiau. Daethpwyd i ystyried y fuddugoliaeth dros y tiroedd newydd helaeth hyn yn symbolau o wareiddiad, cynnydd a rhyddid. Yn ychwanegol, gwelwyd cynnydd dramatig yn y niferoedd a symudodd i Galiffornia yn sgil canfod aur yno. Yn 1849, ymgartrefodd 80,000 yno o wahanol rannau o'r byd, a gafodd effaith sylweddol ar y dalaith.

Yn fwy na hynny, canlyniad y chwyldro diwydiannol oedd mewnlifiad anferth i wahanol rannau o Ogledd America er mwyn diwallu'r gweithlu. Rhwng 1840 ac 1860, daeth dros 4 miliwn o bobl i America, ffigwr sy'n uwch na'r boblogaeth gyfan yn 1790. Aeth 90 y cant ohonynt i'r taleithiau gogleddol a gwneud eu marc mewn ardaloedd gwledig a dinesig fel ei gilydd. Yn 1860, roedd 384,000 o 814,000 o drigolion dinas Efrog Newydd, y prif borthladd, yn ymfudwyr. Roedd traean trigolion talaith Wisconsin wedi ymgartrefu yno. O tua 1840 ymlaen, cynyddodd yr allfudo o Ewrop yn sgil trafferthion economaidd a'r newid a ddaeth i ffordd o fyw gyda'r chwyldro diwydiannol. Daeth teithio'n rhwyddach gyda'r rheilffordd a'r llongau ager, a gwelai nifer ddihangfa i wlad a oedd yn cynnig rhyddid gwleidyddol a chrefyddol. Sigai rhai o drigolion Ewrop dan ormes llywodraethol a hierarchiaeth gymdeithasol gaeth, ac eraill yn ffoaduriaid gwleidyddol yn dilyn methiannau chwyldro 1848. Daeth y mwyafrif o ymfudwyr o ogledd a gorllewin Ewrop, yn bennaf o Iwerddon, Prydain a'r Almaen. Ffoi oddi wrth y newyn mawr a wnaeth nifer o Wyddelod yn ystod 1845–51, a achoswyd gan fethiant cnydau tatws a oedd yn gynhaliaeth iddynt. Ymfudodd tua miliwn yn ystod y cyfnod hwn, a'r mwyafrif wedi dewis America fel eu cyrchfan. Yr Almaenwyr oedd yr ail fewnlifiad mwyaf grymus o ran niferoedd. Ymfudodd rhai hefyd o'r Swistir, yr Iseldiroedd a Scandinafia. I ganol y newidiadau chwyldroadol hyn yr aeth y Cymry felly.

Tueddai'r Cymry i ymsefydlu ymysg eu cydwladwyr, ac i raddau helaeth, yn glwstwr o gymunedau o'r un ardal. O'r herwydd, gellid ailgynhyrchu eu strwythur cymdeithasol cyfarwydd yn gymharol ddi-drafferth, a roddai synnwyr cryf o hunaniaeth ethnig iddynt yn yr amgylchfyd dieithr. Gan fod nifer yn uniaith Gymraeg o hyd, roedd clywed iaith y famwlad o'u cwmpas yn lleddfu hiraeth drwy ddarparu sicrwydd. Mae ymgartrefu yn yr un safle daearyddol â gweddill y gymuned yn nodweddiadol o ymfudiadau eraill o Ewrop yn y cyfnod, er bod Alan Conway a Glanmor Williams yn dadlau bod y Cymry wedi glynu at ei gilydd yn fwy clos oherwydd yr arwahanrwydd ieithyddol.

Mae'r tueddiad i ymsefydlu mewn grwpiau penodol yn adlewyrchu'r system gyfathrebu a ymestynnai ar draws yr Iwerydd, a oedd yn cysylltu cymunedau yn Ewrop â'u cydgenedl yn America. Yn sgil pwyslais cynyddol ar lythrennedd, câi trigolion eu trwytho ym manteision y wlad drwy amrywiol gyfryngau. Byddai gohebiaeth yn canu clodydd yr amodau byw newydd yn cael darlleniad gan drwch y gymuned yng Nghymru, ac felly'n ffactor hollbwysig i ddylanwadu ar y Cymry gartref a'u tywys i fan penodol lle byddai'r gymuned gynt yn eu croesawu unwaith eto.

Gwelir tystiolaeth o erthyglau, dyddiaduron, cerddi a sawl ffurf lenyddol arall yn codi blys y Cymro am fywyd gwell yn fynych mewn cyfnodolion enwadol a phapurau newydd yng Nghymru. Nid yw'n syndod i'r ymfudwyr ddwyn perswâd ar gynifer o'r Cymry i ddilyn eu trywydd gyda'u sôn am iwtopia a pharadwys, tir rhad a ffrwythlon, cnydau toreithiog a chyflogau uchel. Apeliwyd at afiaith grefyddol y Cymry drwy ddisgrifio America mewn termau beiblaidd megis Eden, Seion, Gwlad yr Addewid a Chanaan, a'i darlunio fel dihangfa rhag gormes.

Yn ychwanegol, darparwyd llyfrau tywys a thaflenni ar gyfer ymfudwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai'r rhain yn cynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch amgylchiadau'r wlad newydd, ac felly'n hwyluso'r broses drafferthus o godi pac. Dychwelai gweinidogion megis Ben Chidlaw a Chymry blaengar eraill i Gymru yn achlysurol, ac yn ystod eu hymweliadau byddai darlithiau a sgyrsiau ganddynt yn canmol y wlad yn ddigon i sicrhau bod y dyhead i ymfudo yn magu nerth. Yn yr un modd, anfonwyd deunydd o America i'r diben o hyrwyddo, ac arwydd o bresenoldeb y Cymry yno yw cyhoeddi pamffledi am rai taleithiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel y tystia'r toreth o ddeunydd apelgar, roedd America erbyn hyn yn fwy na llecyn penodol i ymgartrefu ynddo: roedd yn feddylfryd grymus ac yn addewid o well safon byw.

Roedd y rhan fwyaf o'r treflannau yn cynnwys llai na dwy fil o drigolion, ac eto roedd nifer yn frwd ac yn weithgar dros gadw gwerthoedd yr hen wlad. Er mai nifer pitw o Gymry a droediodd y tir mawr o'i gymharu â chenhedloedd eraill Ewrop, mae ffyniant eu diwylliant yn arddangos eu balchder a'u dymuniad i gadw eu Cymreictod yn y wlad estron. Nid oedd y famwlad yn angof i nifer ohonynt wedi croesi'r Iwerydd, yn wahanol i sylfaen cysyniad y tabula rasa sy'n honni bod ymfudwyr yn eiddgar i gymathu ar unwaith. Yn hytrach, er eu bod wedi mentro er mwyn manteisio ar y cyfleoedd newydd, roedd atgofion o'r hen wlad yn rhan o brofiad yr ymfudwyr ac yn ffurfio eu traddodiadau a'u ffordd o fyw yn y wlad fabwysiedig.

Yr hyn sy'n allweddol wrth ystyried profiadau ymfudwyr yw symud oddi wrth bwyslais rhai haneswyr ar ddiwreiddio a dieithrwch, ac yn hytrach arddel y trosiad o drawsblannu i ddisgrifio proses ailgreu hunaniaeth ddiwylliannol y famwlad yn America. Yn sgil yr ymfudo helaeth o fewn terfynau Prydain o ganlyniad i'r twf diwydiannol, roedd rhai Cymry eisoes yn gyfarwydd â'r orchwyl o feithrin cymunedau newydd: 'Uprooted this migrant society may have been, but it was not rootless or lonely. Surviving customs and beliefs were blended with the different demands and opportunities of the new order.' Creu microcosm o Gymru oedd bwriad sawl ymfudwr yn ôl John Davies, proses gymharol rwydd cyn belled â'u bod yn rhannu'r un nodweddion gwaelodol o hyd.

Er bod Cymry America'n creu hunaniaeth newydd, roedd ei gwreiddiau yn ddwfn yn etifeddiaeth yr hen wlad. Roedd felly'n broses ymwybodol a olygai gadw elfennau diwylliannol yn ogystal â chreu rhai newydd ar yr un pryd. Ar un wedd, roedd yr ymfudwyr yn teimlo'n chwerw iddynt orfod ffoi a cheisio rhyddid gwleidyddol yn America dan amgylchiadau tebyg i'r Gwyddelod. Dioddefai Cymru ac Iwerddon dan law system diroedd y llywodraeth. Serch hynny, gellid dadlau eu bod yn ymdebygu mwy i'r Almaenwyr yn eu balchder cenedlgarol ar ystyr ddiwylliannol ac ieithyddol, yn yr ymgais i drawsblannu hen werthoedd mewn amgylchfyd newydd.

Er i'r hunaniaeth blethu nodweddion y ddwy wlad, ffurfiwyd creadigaeth cwbl newydd yn ei hanfod, fel y gwnaethpwyd gan nifer o genhedloedd Ewrop. Yn ôl Douglas Miller, roedd modd i sawl hunaniaeth ethnig a chenedlaethol gyd-fyw yn America, gan nad oedd hunaniaeth Americanaidd ystrydebol beth byn nag yn sgil yr amrywiaeth o genhedloedd a drigai yn y wlad. Yn wir, roedd America hefyd yn profi newidiadau enfawr yn ei demograffeg, a'r ymwybyddiaeth o grwpiau ethnig amrywiol yn rhan o'i phatrwm cymdeithasol. Roedd yn llawn hyphenated groups a gyfunai ddau begwn eu cenedligrwydd yn llwyddiannus. Rhwystr felly fyddai ystyried cymuned ethnig unffurf sy'n dibynnu ar berthyn i un genedl yn absoliwt, er gwaetha'r naratifau cenedlaethol a gynhyrchir gan grwpiau ethnig, gan fod nifer o gymunedau yn dangos teyrngarwch i ddwy genedl.


(Continues...)

Excerpted from Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad? by Rhiannon Heledd Williams. Copyright © 2017 Rhiannon Heledd Williams. Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Contents

Diolchiadau,
Cyflwyniad,
1 Newyddiaduraeth Gymraeg America,
2 'Heb Dduw heb ddim, Duw a digon': Enwadaeth a Chrefydd Cymry America,
3 'Cyhoeddiad rhydd ac anmhleidgar'? Gwleidyddiaeth Cymry America a dylanwad y wasg,
4 'Oes y byd i'r iaith Gymreig?' Parhad yr iaith Gymraeg yn America,
5 'Llon heddy' yw llenyddiaeth?' Traddodiad llenyddol a diwylliant Cymry America,
Casgliad 'Tra Môr Tra Brython?' Dylanwad y wasg a pharhad diwylliant Cymraeg America,
Nodiadau,
Llyfryddiaeth,

From the B&N Reads Blog

Customer Reviews