Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

This is the first study of the colorful history and controversial films of the Cymraeg Film Board (1971 - 86), which was established solely to produce Welsh-language films such as Teissnau Mair, O'r Dæarah Hen and Madam Wen. When tracing the history of the organisation, it is argued that the establishment of the Board was part of the battle to protect and protect the Welsh language.

"1120341188"
Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

This is the first study of the colorful history and controversial films of the Cymraeg Film Board (1971 - 86), which was established solely to produce Welsh-language films such as Teissnau Mair, O'r Dæarah Hen and Madam Wen. When tracing the history of the organisation, it is argued that the establishment of the Board was part of the battle to protect and protect the Welsh language.

8.99 In Stock
Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

by Kate Woodward
Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

by Kate Woodward

eBook

$8.99  $10.39 Save 13% Current price is $8.99, Original price is $10.39. You Save 13%.

Available on Compatible NOOK devices, the free NOOK App and in My Digital Library.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

This is the first study of the colorful history and controversial films of the Cymraeg Film Board (1971 - 86), which was established solely to produce Welsh-language films such as Teissnau Mair, O'r Dæarah Hen and Madam Wen. When tracing the history of the organisation, it is argued that the establishment of the Board was part of the battle to protect and protect the Welsh language.


Product Details

ISBN-13: 9781783165711
Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru
Publication date: 05/15/2013
Series: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 248
File size: 7 MB
Language: Welsh

About the Author

Kate Woodward is a Lecturer in Film Studies at Aberystwyth University.

Read an Excerpt

Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?

Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg


By Kate Woodward

Gwasg Prifysgol Cymru

Copyright © 2013 Kate Woodward
All rights reserved.
ISBN: 978-0-7083-2593-3



CHAPTER 1

Braenaru'r Tir


Cyflwyniad

Yn eu cyfrol The Media in Wales: Voices of a Small Nation, dywed David M. Barlow, Philip Mitchell a Tom O'Malley: '[It is] difficult to see how any account of the history and development of the media in Wales can be told without recourse to the idea of "struggle".' Bwriad y gyfrol hon yw gwyntyllu hanes un asiantaeth anghofiedig a sefydlwyd yn unswydd er mwyn cynhyrchu ffilmiau Cymraeg eu hiaith. Wrth ddatguddio hanes y sefydliad, dadleuir yma fod sefydlu'r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (BFfC) (1971–86) yn rhan o'r frwydr dros ddiogelu a gwarchod yr iaith Gymraeg a yrrwyd gan ysfa caredigion yr iaith i sicrhau parhad iddi. Gyda ffigyrau cyfrifiadau 1961 a 1971 yn tystio i ddihoeni graddol niferoedd y siaradwyr Cymraeg, a chyda'r broses ddemocrataidd yn profi'n bur aneffeithlon, roedd sefydlu'r bwrdd yn un ymgais ymhlith nifer i geisio diogelu ac ymrymuso'r iaith trwy ddulliau diwylliannol.

Wrth ddarlunio hanes yr ymgais hon i broffesiynoli cynhyrchu ffilmiau Cymraeg, dadlennir y modd yr oedd gan rymoedd allanol rôl allweddol yng ngallu'r bwrdd i wireddu ei ddyheadau. Roedd y broses o ddatblygu ffilmiau Cymraeg ar drugaredd cyfundrefn gyllidol a reolid y tu hwnt i Glawdd Offa ac a oedd wedi'i thrwytho mewn syniadaeth a ddyrchafai uwch ddiwylliant, gwerthoedd metropolitan a Seisnigrwydd goruwch unrhyw werthoedd eraill. Dadleuir felly y gellir dehongli hanes y BFfC fel ymgorfforiad o densiynau a oedd yn ganlyniad i frwydrau rhwng systemau grym. Yn ogystal, bu sefydlu S4C ym 1982 yn garreg filltir allweddol yn hanes y cyfryngau Cymraeg, a chafodd dyfodiad y sianel effaith bellgyrhaeddol ar wanychu gwaith a statws y bwrdd, gan arwain yn y pen draw at ei ddiddymu.


Trefn y gyfrol

Yn y bennod agoriadol, ystyrir y maes ymchwil yng ngoleuni nifer o theorïau diwylliannol diweddar, trwy gynnig rhesymau am y berthynas broblematig a fu erioed rhwng y cyfrwng ffilm a Chymru. Olrheinir hefyd yr ymdrechion ysbeidiol a fu i gynhyrchu ffilmiau Cymraeg cyn dyfodiad y BFfC. Cyflwynir sail gysyniadol y gyfrol yn yr ail bennod, wrth archwilio cysyniadau sy'n canoli ar 'bwer' fel ffordd o ddeall natur hegemonaidd strwythurau diwylliannol. Cyfeirir yn benodol at waith Michel Foucault er mwyn arddangos y modd y mae asiantaethau megis y British Film Institute (BFI) a chynghorau celfyddydau Prydain Fawr a Chymru yn rheoli'r hinsawdd gelfyddydol trwy ffafrio rhai mathau o gelfyddyd dros fathau eraill.

Ym mhenodau tri a phedwar, olrheinir cyd-destun sefydlu'r bwrdd fel parhad naturiol i waith yr arloeswyr ffilm Cymraeg cynnar, sef Syr Ifan ab Owen Edwards a John Roberts Williams, gyda'r ymdrech i sicrhau parhad yr iaith yn wythïen hollbresennol yn natblygiad y ffilm Gymraeg o'r dechrau un. Dadansoddir y brwydrau â'r cyrff cyllido, brwydrau a ddeilliai o raison d'être ieithyddol y bwrdd. Edrychir ar benllanw'r cynhyrchu llwyddiannus a gafwyd rhwng 1978 a 1982 ym mhenodau pump a chwech, wrth ddehongli'r ffilmiau yng nghyddestun hanes y sefydliad, eu dylanwadau, yn ogystal ag ymagweddiad cynulleidfaoedd a'r wasg tuag atynt. Ym mhennod saith, edrychir ar y ffactorau a oedd i gyfrif am edwino terfynol y bwrdd, wrth asesu hefyd i ba raddau y llwyddwyd i gyrraedd yr amcanion a osodwyd ar ei gyfer, ac archwilio'r gwaddol a adawyd ar ei ôl. Yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, gwelwyd nifer o gyrff a sefydlwyd er mwyn datblygu ffilmiau yng Nghymru yn mynd i'r gwellt. Fe fydd y gyfrol hon yn ceisio tafoli'r rhesymau dros y methiannau niferus trwy ganoli ar yr unig fudiad a sefydlwyd yn unswydd er mwyn cynhyrchu ffilmiau Cymraeg.


Cymru a ffilm

Dywedodd Wil Aaron ym 1979:

Ni chafodd y ffilm fawr o groeso yng Nghymru erioed. Yn fychan dwy neu dair blwydd oed, yn drewi braidd o gin a chwys y ffeiriau, rhedodd yn syth i wrthdrawiad ag Evan Roberts a Diwygiad 1904/5 ac fe'i maeddwyd yn dost. Bu fyw; ond mae'n dal yn rhwystredig i'r dydd heddiw.


Roedd yn llygad ei le wrth honni na fu yna berthynas ffrwythlon erioed rhwng y cyfrwng ffilm a Chymru, ond erbyn heddiw, ni ellir dal Evan Roberts a'r Diwygiad Methodistaidd ysgytwol yn llwyr gyfrifol am ddatblygiad simsan y cyfrwng yng Nghymru. Proses ddigon astrus fu cynhyrchu ffilmiau yng Nghymru erioed, a cheir cymhlethdodau wrth geisio trafod ffilm yng Nghymru o safbwynt cenedlaethol. Fel y dangosir yn y bennod hon, wrth i'r cysyniad esblygu, cyfyngwyd y drafodaeth ar sinemâu cenedlaethol i wledydd mwyaf grymus y byd, heb unrhyw ystyriaeth i'r ffaith y gellid ffurfio sinema genedlaethol ystyrlon mewn cenhedloedd bychain.

Mae Cymru, fel pob cenedl fechan, wedi wynebu rhwystrau niferus ym maes ffilm. Ceir problemau ymarferol economaidd a strwythurol wrth geisio cynhyrchu ffilm, ac yn gysylltiedig â hynny, mae yna her barhaol o ystyried y math o bortread o Gymru a geir ac a gafwyd ar y sgrin fawr. At hynny, mae safle Cymru o fewn Prydain Fawr, a'r berthynas hanesyddol hegemonaidd rhyngddi a Lloegr yn golygu bod y cysyniad o'r genedl ac o hunaniaeth Gymreig wedi bod yn un eithriadol o gymhleth erioed.


Ffilm a'r cenedlaethol

Mae'n arwyddocaol bod y syniadau cynharaf am ffilm fel endid cenedlaethol wedi ymddangos mewn cyfnod pan oedd gwledydd yng ngyddfau'i gilydd. Ys dywed Pierre Sorlin:

The cinema was born, it developed and reached its peak in a world divided by harsh national oppositions; a world where nations were often conceived of as living entities, collective bodies whose defence and expansion seemed worth sacrificing the individuals who made them up.


Priodol felly oedd i'r cyfrolau cyntaf a drafodai ffilm fel endid cenedlaethol ymddangos yn y gwledydd hynny a fu'n cystadlu'n ffyrnig i ymestyn eu hymerodraethau diwydiannol. Ymddangosodd cyfrol arloesol Lewis Jacobs The Rise of American Film: A Critical History (1930) yn yr Unol Daleithiau, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach gwelodd cyfrol Oskar Kalbus, Vom Werden Deutscher Filmkunst (1936), olau dydd yn y Drydedd Reich. Defnyddiodd Lewis Jacobs y term 'sinema genedlaethol' am y tro cyntaf, a defnyddiodd ddull cronolegol wrth ganolbwyntio ar arloeswyr cynnar y diwydiant, dyfodiad sain, y stiwdios a'r auteurs nodedig. Dibynna'r gyfrol yn helaeth ar y syniad bod cenedl-wladwriaethau yn ganlyniad naturiol, organig i ddatblygiad esblygiadol. Dangosodd y gellid cydblethu dimensiynau diwydiannol a diwylliannol y sinema mewn un astudiaeth, wrth iddo honni y ceid ethos cenedlaethol a oedd yn gyrru'r diwydiant ac yn llywio'r math o ffilmiau a wnaed. Yn fuan wedi'r Ail Ryfel Byd, cyhoeddwyd nifer o gyfrolau a ddefnyddiodd gwaith Lewis Jacobs fel glasbrint – rhai a ganolai ar hanesion ffilm cenedlaethol ac a asesai gyrhaeddiad y diwydiannau ffilm Gorllewinol dros hanner canrif.

Wrth symud y tu hwnt i fyd y ffilm, bu'r 1960au yn gyfnod o drafodaethau brwd ynglªn â'r cysyniad o genedl a'r cenedlaethol mewn amrywiaeth eang o feysydd. Ym Mhrydain, cafwyd ymryson ar ddadfeiliad Prydeindod ymysg golygyddion a chyfranwyr y New Left Review, yn eu plith Tom Nairn a Perry Anderson. Teimlodd y Cymry Cymraeg effaith y trafodaethau, a chyfrannwyd atynt wrth glustnodi rhifyn cyfan o Efrydiau Athronyddol ym 1961 i drafod y syniad o genedl. Effeithiodd y dadleuon a'r dadansoddi hyn ar y gwaith a ymddangosodd mewn cyfnodolion ffilm megis Screen ond, mewn gwirionedd, ni theimlwyd gwir effaith y trafodaethau tan y 1980au, pan gydnabuwyd astudiaethau ffilm fel maes ymchwil academaidd ddilys.

Yn ystod y 1980au, cafwyd newidiadau sylfaenol a phellgyrhaeddol o fewn y diwydiannau cyfathrebu. Roedd y cysyniad o globaleiddio yn un a oedd wedi magu pwysigrwydd (heb fod wedi ei ddiffinio'n bwrpasol) ac, o ganlyniad, cwestiynwyd priodoldeb astudio ffilmiau fesul gwlad. Yn y cyd-destun hwn, ymddangosodd nifer o draethodau allweddol mewn cyfnodolion Prydeinig a aeth i'r afael â goblygiadau trafod y sinema fel arferiad diwylliannol cenedlaethol. Ar yr un pryd, roedd academyddion mewn gwledydd Gorllewinol megis Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen ac Awstralia hefyd yn ceisio ailddyfeisio hanes y sinema mewn perthynas â thiriogaeth genedlaethol, ac roedd y gymuned academaidd ehangach, ym meysydd gwleidyddiaeth a hanes, yn cwestiynu pendantrwydd ffurfiannau cenedlaethol. Y glasbrint a ddefnyddiwyd er mwyn codi'r cwestiynau hyn yn ystod y 1980au oedd gwaith Ernest Gellner, Nations and Nationalism (1983). Dadleuodd Gellner: 'It is nationalism which engenders nations, and not the other way round,' ac esboniodd ddyfodiad cenedlaetholdeb yn nhermau 'a breakwater of differential industrialisation' a ddeilliodd o'r angen am symudoledd galwedigaethol a ddaeth yn sgil technoleg fodern. Dywed Perry Anderson: 'But the more fluid the social structure, the more unitary is the culture it requires of its agents, as they shift and intermesh positions in an increasingly complex and mutable division of labour.'

O fewn y traddodiad ffilm Prydeinig, ystyrid y berthynas rhwng ffilm a hunaniaeth genedlaethol yn un glòs ac amhroblemus. Gan amlaf, ystyrid bod 'sinema genedlaethol Prydain' yn gyfystyr â 'sinema genedlaethol Lloegr'. Roedd gweithiau o eiddo Jeffrey Richards ar y 1930au, Charles Barr ar stiwdio Ealing, a gwaith Raymond Durgnat ar y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd yn hyrwyddo'r syniad o ddadansoddi ffilmiau yng nghyd-destun y 'genedl' a 'hunaniaeth genedlaethol'. Yn ogystal, dechreuodd gwaith Benedict Anderson fagu pwysigrwydd yn y maes, wrth ffurfio asgwrn cefn gwaith nifer o feirniaid. Yn ei gyfrol ddylanwadol Imagined Communities, dadleuodd fod cenedl yn 'imagined political community and imagined as inherently limited and sovereign', a darparodd y cysyniad canolog hwn sbardun syniadol i doreth o waith. Wrth drafod dechreuadau cenhedloedd Ewrop, honnodd mai cyfathrebu cyfryngol a oedd wrth wraidd ffurfio ymwybyddiaeth neu hunaniaeth genedlaethol: 'What in a positive sense, made the new communities imaginable was a half-fortuitous, but explosive, interaction between a system of production and productive relations (capitalism), a technology of communication (print), and the fatality of human linguistic diversity.' Yn ôl Benedict Anderson, safonid iaith frodorol trwy gyfrwng iaith brint. Canolodd ar waith Gutenberg, a'r modd y lledaenwyd iaith safonol newydd trwy gyfrwng llyfrau a phapurau newydd. Gwelodd y cyfryngau print yn rymoedd hanfodol wrth siapio ymwybod cenedlaethol, gan eu bod yn medru cyfathrebu â chymuned ddychmygol genedlaethol yn absenoldeb cenedl-wladwriaeth. Amlygwyd felly bwysigrwydd y cyfrwng cyfathrebol – yn yr ystyrir ehangaf – yn y broses o greu cymuned ddychmygol. Er nad oedd sôn am y ddelwedd symudol yn ei waith, mae'n glir pam y mabwysiadwyd ei syniadau mewn ffordd mor frwd. Wrth ddadlau bod 'derbyn' cyfathrebu cyfryngol yn dorfol yn creu ymdeimlad o gymuned genedlaethol, dangosodd y modd y llunnir ymdeimlad o berthyn trwy gyfrwng syniadau sy'n cylchredeg o fewn diwylliant, wrth greu, yn ei eiriau ef, '[a] deep, horizontal comradeship'.

Defnyddiwyd gwaith Benedict Anderson felly fel sail i ran helaeth o'r gwaith a gyhoeddwyd ar sinemâu cenedlaethol yn y Gorllewin. Fodd bynnag, roedd y syniadau a ddatblygwyd yn y trafodaethau hynny yn gwbl anaddas ar gyfer trafod y sinema mewn gwledydd bychain. Daw hyn i'r amlwg wrth ddatgymalu gwaith mwyaf dylanwadol y maes. Yn ei gyfrol Waving the Flag, sy'n canoli ar y sinema Brydeinig (er bod y drafodaeth, mewn gwirionedd, wedi'i chyfyngu i Loegr a ffilmiau o Loegr), awgryma Andrew Higson bum polisi economaidd y gallai sinemâu cenedlaethol eu mabwysiadu i'w hamddiffyn eu hunain rhag tra-arglwyddiaeth Hollywood. Gellir eu crynhoi yn y dull canlynol: dosbarthu ac arddangos ffilmiau Hollywood; cystadlu'n uniongyrchol â Hollywood; creu cynyrchiadau rhad sy'n targedu'r farchnad ddomestig, a chynhyrchu ffilmiau celfyddydol ar gyfer marchnad ryngwladol; sicrhau mesurau diogelu ar ffurf cwotâu, a sicrhau arian er mwyn annog cynyrchiadau cenedlaethol; a chydweithio rhyngwladol.

Mae'r rhesymau pam na ellir mapio'r fath fformiwla ar wlad fechan yn niferus. Cynhyrchu ffilmiau rhad, gorddibynnu ar nawdd y llywodraeth a cheisio cydweithio yn rhyngwladol fu'r unig ffyrdd o gynhyrchu mewn gwledydd bychain erioed. Nid yw sefydlu cwotâu yn bosibl gan fod lefelau cynhyrchu fel arfer yn isel dros ben, ac ni fyddai ffilmiau domestig fyth yn medru ffurfio mwy na chanran fechan iawn o'r farchnad arddangos. Yn ogystal, mae'r awgrym ynghylch cystadlu â Hollywood yn gwbl afrealistig, gan nad oes gan wledydd bychain adnoddau cyllidol digonol i gystadlu yn erbyn gafael haearnaidd Hollywood ar y farchnad ryngwladol.

Ers cyhoeddi cyfrol Andrew Higson, ac yng ngoleuni pwysigrwydd cynyddol y cysyniad o globaleiddio, ailedrychodd nifer o academyddion, gan gynnwys Stephen Crofts, John Hill a Paul Willemen, ar y cysyniad 'cenedlaethol' yn ystod y 1990au. Sylwodd Stephen Crofts y ceid bellach '[a] growing lack of congruence between nations and states' ac awgrymodd y dylid sôn am 'states and nation-state cinemas rather than nations and national cinemas'. Cydsyniodd John Hill wrth faentumio bod y syniad o'r genedl Brydeinig yn chwalu yn wyneb amrywiaeth cynyddol y Deyrnas Unedig, gyda chyfarwyddwyr du, Asiaidd, Albanaidd a Chymreig ymhlith eraill yn herio fersiynau cul o Brydeindod. Fodd bynnag, nid bwrw ymaith y syniad o sinema genedlaethol yn llwyr a wnaeth John Hill, ond dadlau y gellid manteisio ar lacrwydd y cysyniad er mwyn hyrwyddo amrywiaeth. Yn hytrach na sôn am un sinema genedlaethol Brydeinig felly, dywed y dylid cydnabod bodolaeth amrywiaeth o sinemâu cenedlaethol o fewn un genedl. Dadleua fod diffinio sinema genedlaethol fel cysyniad digyfnewid a 'phur' yn tanseilio'r grym sydd gan ffilmiau i ailddychmygu'r cenhedloedd o fewn y Deyrnas Unedig. Tra ymdrechodd Higson i ddehongli un sinema genedlaethol bur, ddigyfnewid a pharhaol, gwelodd Hill fod gan y cysyniad y gallu i adlewyrchu'r cymhlethdodau cynyddol sy'n rhan annatod o'r cysyniad o genedl.

Ond mae rhai beirniaid yn cwestiynu a yw'r cysyniad o'r cenedlaethol yn berthnasol o gwbl bellach mewn byd lle mae grym globaleiddio yn prysur wanychu'r hen syniad o'r genedl fel tiriogaeth ac iddi economi, gwleidyddiaeth a diwylliant unigryw. Mae cyfalaf rhyngwladol, dadreoli marchnadoedd a symudoledd daearyddol gweithluoedd yn erydu hen ffiniau cadarn sydd bellach yn hylifol ac ansad. Yn ogystal, mae rhwydweithiau cyfathrebu wedi esblygu'n bwerau byd-eang sy'n hwyluso busnes, gwybodaeth, adloniant a ffyrdd eraill o groesbeillio diwylliannol. Mewn ymateb i hyn, datblygodd maes newydd o astudio ffilmiau o bersbectif trawsgenedlaethol, a hynny ymhlith damcaniaethwyr ym meysydd cymdeithaseg, damcaniaeth ôl-drefedigaethol ac astudiaethau diwylliannol. Fodd bynnag, er gwaetha'r duedd hon, honnir y canlynol gan Will Higbee a Song Hwee Lim: 'the national continues to exert the force of its presence even within transnational film-making practices'. Mewn cyhoeddiad diweddar, 'An atlas of world cinema', mae Dudley Andrew yn cloi ei drafodaeth trwy gadarnhau dilysrwydd y cenedlaethol, ond gan awgrymu cyfeiriad newydd i'r arfer o ddiffinio ffilmiau yn ôl tiriogaethau daearyddol:

Let me not be coy. We still parse the world by nations. Film festivals identify entries by country, college courses are labelled 'Japanese Cinema', 'French Film', and textbooks are coming off the presses with titles such as Screening Ireland, Screening China, Italian National Cinema, and so on. But a wider conception of national image culture is around the corner, prophesied by phrases like 'rooted cosmopolitanism' and 'critical regionalism'.


Er gwaethaf hyn, mae'r cysyniad o sinema genedlaethol yn parhau fel thema ym myd astudiaethau ffilm Saesneg eu hiaith, ac o fewn diwylliant ffilm byd-eang yn gyffredinol. Mae diddordeb academyddion Gorllewinol yn sinema'r byd wedi ymestyn cyrhaeddiad y maes y tu hwnt i'r pwyslais hanesyddol ar Ogledd America ac Ewrop, ac aethpwyd ati i gofleidio sinemâu cenedlaethol allddodol ac ôl-drefedigaethol yn Asia, Affrica ac America Ladin.


Cymru a Phrydeindod

Thema sy'n llifo trwy'r gyfrol hon yw'r triongl o densiynau rhwng y cysyniadau o Gymru, Lloegr a Phrydeindod. Wrth fyfyrio ar y berthynas rhwng Cymru a Phrydain, honnodd Gwyn Alf Williams, awdur y gyfrol ddylanwadol When Was Wales?, fod Cymru yn 'genedl schizophrenig'. Wrth gyfeirio at ddeuoliaeth yr hunaniaeth Gymreig, dadleuodd fod y profiad Cymreig yn gwbl gysylltiedig â'r profiad o fod yn Brydeiniwr ers dyddiau Owain Glyndfir. Dadleuodd fod Glyndfir wedi gosod deuoliaeth wrth galon y cysyniad o Gymru, rhywbeth a fu ar gynnydd er cyfnod y Normaniaid: 'Nid oedd dim gobaith bellach am ysgariad oddi wrth y Saeson. Byddai'n rhaid byw gyda hwy a rhannu eu bywyd. Ar yr un pryd, byddai'n rhaid, rywfodd, cadw personoliaeth briodol. Daeth y gwrthdrawiad hwn i fod yn nodwedd barhaol bywyd Cymru.' Aeth nifer ati i archwilio natur sgitsoffrenig Cymru. Dywedodd Alfred Zimmern cyn gynhared ag 1921:

the Wales of to-day is not a unity. There is not one Wales; there are three ... There is Welsh Wales; there is industrial or, as I sometimes think of it, American Wales; and there is upper class or English Wales. These three represent different types and different traditions.


Trafododd J. R. Jones natur y tensiynau a geir rhwng Cymru, Lloegr a Phrydain yn ei gyfrol Prydeindod (1966), lle y pwysleisiodd yr angen i ddeall Prydeindod fel syniadaeth sy'n annog y Cymry i feddwl eu bod yn meddu ar rym cyfartal o fewn fframwaith Prydeindod, a hynny er gwaetha'r ffaith bod eu sefyllfa yn seithug. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, honnodd Denis Balsom fod modd rhannu Cymru yn dair tiriogaeth wahanol a oedd yn gartref i dri math o Gymro: y Cymro Cymraeg; y Cymro di-Gymraeg; a'r Prydeiniwr yng Nghymru. Dangosodd fod gan bob un o'r tri eu teyrnas ddaearyddol yng Nghymru, gyda siroedd y gorllewin a'r gogledd yn 'Fro Gymraeg', a chymoedd diwydiannol y de yn 'Gymru Gymreig'. Defnyddir y gair 'British' er mwyn dynodi llefydd lle'r oedd yr ymdeimlad o arwahanrwydd Cymreig yn bur wan. Ar y cyfan, tiriogaeth y gororau a enwir yn 'Gymru Prydain', a'i natur ffiniol, yn rhagweladwy efallai, yn esgor ar ymdeimlad o hunaniaeth ddeuol. Yng ngwaith J. R. Jones a Denis Balsom, cyfeirir at 'Brydeindod' fel cysyniad negyddol, ond nid pob ymchwilydd yng Nghymru sy'n cytuno. Yn ei gyfrol nodedig Wales! Wales?, adleisiodd Dai Smith waith J. R. Jones wrth ddadlau yn rymus y nodweddid hunaniaeth Gymreig yr ugeinfed ganrif gan ymwybyddiaeth ddeuol – un 'Gymreig' ac un 'Brydeinig'. Fodd bynnag, gwêl unrhyw ymdrech i ddatgymalu'r profiad Cymreig o'r profiad Prydeinig fel ymdrech i danseilio hanes gweithwyr cyffredin, a phwysigrwydd Prydeindod iddynt fel grym unol mewn cyfnodau o galedi.


(Continues...)

Excerpted from Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? by Kate Woodward. Copyright © 2013 Kate Woodward. Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Talfyriadau 1. Braenaru'r Tir 2. Death to Hollywood!: Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr a'r British Film Institute 3. Gwreiddiau a Chyd-destun sefydlu'r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg 4. Troi'n Genedlaethol 5. Teisennau Mair (1979) a Newid Ger (1980) 6. O.G. (1981) ac O'r Ddaear Hen (1981) 7. Madam Wen (1982), S4C a Ty'd Yma Tomi! (1983) 8. Cloriannu
From the B&N Reads Blog

Customer Reviews