Un o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (1848–1906), y pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd. Hon yw’r gyfrol gyntaf arno sy’n dadansoddi’n fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth. Mae’n cloriannu ei gefndir a’i fagwraeth, ei addysg yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno, a’r modd yr aeth ati i ddwyn perswâd ar ei gyfoeswyr i ymwrthod â’r bydolwg Prydeinig a Seisnig. Ceir yn ei homilïau athrawiaeth Gristnogol aeddfed a gwâr, wedi’i mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; mae’r cysyniadau o ras, gobaith a gogoniant yn cael lle blaenllaw. Yn ogystal ȃ thrafod ei gyd-destun hanesyddol, mae’r gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith Emrys ac yn pwysleisio’i berthnasedd i’r Gymru gyfoes.

Gras, Gobaith a Gogoniant: Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan
128Gras, Gobaith a Gogoniant: Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan
128Product Details
ISBN-13: | 9781837722006 |
---|---|
Publisher: | Gwasg Prifysgol Cymru |
Publication date: | 09/15/2024 |
Sold by: | Barnes & Noble |
Format: | eBook |
Pages: | 128 |
Language: | Welsh |